![]() |
ENGLISH |
|
HafanIoga i BlantIoga yn y gweithleIoga yn y gymuned Dosbarthiadau IogaYnglŷn â IogaAdolygiad BlynyddolCysylltu â niDolenniCD Ymlacio Amdanom niHanesDechreuwyd Ioga i bawb gan griw o athrawon a myfyrwyr ioga yn ardal Aberystwyth a Machynlleth ym Mehefin 2005. Roeddynt am ddod a ioga i sylw mwy o bobl o fewn y gymuned a'i wneud yn fwy hygyrch i grwpiau bregus ac i bobl sy'n byw ar wasgar. Yn wreiddiol cafwyd cynhaliaeth gan CAVO. Un o'r projectau cyntaf oedd gweithio gydag ysgolion lleol i gynnig ioga i blant. Cynigiwyd dosbarthiadau i bobl mewn oed gydag Age Concern ac i ofalwyr fel rhan o grŵp gofalwyr y Groes Goch Brydeinig. Ers hynny mae gwaith IiB wedi ymestyn i weithleoedd masnachol gan gynnig dosbarthiadau o fewn y gweithle. Staff Rachel Lilley – Cydlynydd y project ac athrawes Mae Rachel wedi gweithio gydag elusennau am dros 15 mlynedd ac mae ganddi brofiad mewn rheoli projectau, codi arian a chysylltiadau cyhoeddus. Mae Rachel wedi dysgu ioga yn lleol ers deng mlynedd. Yn ogystal â'i diploma dysgu cychwynnol mae hi wedi cael hyfforddiant ychwanegol sylweddol, trwy ennill cymhwyster y BWY Modiwl Plant a'r Modiwl Beichiogrwydd. Yn wreiddiol, cefndir mewn newyddiaduriaeth sydd gyda Rachel, a bu'n gweithio fel ymgyrchydd, rheolwr project, codwr arian a swyddog y wasg i elusennau. Mae hi'n cyfuno ei gwybodaeth a'i sgiliau fel athro gyda'r wybodaeth sydd ganddi am y sector wirfoddol i gydlynu Ioga i Bawb. Mae Rachel yn rhedeg dosbarthiadau i blant a merched beichiog yn ogystal â dosbarthiadau cyffredinol i oedolion. Mae Rachel yn ddysgwr Cymraeg. Lesley Wheatley – Athrawes Mae Lesley wedi dysgu Ioga yn lleol ers deng mlynedd. Mae ganddi wybodaeth eang o weithio gyda phobl ag anghenion arbennig - ac wedi gweithio gyda phobl ag anghenion arbennig ers 17 mlynedd cyn ymddeol yn ddiweddar. Mae gan Lesley hyfforddiant ychwanegol i weithio gyda phlant ag anghenion arbennig a chwblhaodd Fodiwl Pranayama BWY(technegau anadlu). Mae Lesley wedi lleihau ei dysgu ers Mehefin 2008 ond mae'n parhau i gynghori a gweithio fel mentor. Sue Jones-Davies – Athrawes Mae Sue wedi cymhwyso'n ddiweddar fel athro i'r BWY. Mae hi wedi bod yn dysgu am y tair blynedd ddiwethaf, ond cyn hynny ,roedd ganddi flynyddoedd o brofiad fel athro drama a chanu wrth weithio gyda phlant ac oedolion. Mae hi'n siaradwr Cymraeg ac ar hyn o bryd yn gynghorydd lleol yn yr ardal. Mae Sue yn rhedeg dosbarthiadau i ofalwyr a phlant ysgol yn ogystal â dosbarthiadau cyffredinol i oedolion. Katy Tuxworth - Athrawes Cymhwysodd Katy fel athrawes Ioga Hatha gyda'r Ganolfan Fywyd yn Llundain yn 2006. Mae ganddi ddull tyner a chyfannol i'w gwaith, yn deillio o'i phrofiad fel therapydd tylino gan ddilyn dysgeidiaeth arbennig Donna Farhi. Cred Katy bod Ioga yn ffordd wych i gynnal cydbwysedd mewn byd prysur ag anhrefnus yn aml. "Mae ganddo lawer i'w gynnig i ni, waeth beth yw ein hoedran na'n gallu. Mewn amserau anodd mae wedi bod, ac yn parhau, yn graig i mi. Baswn yn annog pawb i'w ystyried." Mae'r tair wedi cael ei hyfforddi gan y British Wheel of Yoga (BWY), sydd wedi ei achredu gan y Cyngor Chwaraeon Prydeinig. Mae'r cwrs yn para am 3 - 4 blynedd gan gynnwys aseiniadau ysgrifenedig ac ymarferol. Mae Lesley a Rachel ill dwy wedi cymhwyso ymhellach mewn agweddau arbenigol amrywiol o fewn ioga. Ymddiriedolwyr Cadeirydd - Eryl Bray - Rheolwr, Gwasanaethau Cymdeithasol Ysgrifennydd – Gwen Davies – Golygydd Llenyddol Trysorydd – Paul Scofield - Rheolwr Cyllid Medi James – Cyfarwyddwr Iaith Mudiad Ysgolion Meithrin Jennie Roberts – Therapydd Galwedigaethol Uwch |