![]() |
ENGLISH |
|
HafanIoga i BlantIoga yn y gweithleIoga yn y gymuned Dosbarthiadau IogaAmdanom niYnglŷn â IogaCysylltu â niDolenniCD Ymlacio Ioga i Bawb – Cyflawniadau a chynlluniauAdroddiad Blynyddol Ioga i Bawb 2005 – 06Dechreuodd Ioga i Bawb pan gafodd Rachel Lilley y syniad o gyfuno ei sgiliau gwaith yn y sector wirfoddol gyda'i hawydd i ddod a lles ioga i gynulleidfa ehangach. Yn dilyn sgyrsiau gyda CAVO ac athrawon ioga eraill fe gymrodd flwyddyn gron i ddod a'r grŵp ynghyd, datblygu, cytuno ar gyfansoddiad a phenderfynu ar eu hamcanion. Ioga i'r henoed Erbyn Medi 2005 roedd gennym grant datblygu ac roeddem wedi dechrau gweithio gyda Age Concern wrth gynnig dosbarthiadau i'r oedrannus yng nghanolfannau dydd Gogledd Ceredigion. Yn ychwanegol derbyniom gyllid i gychwyn dosbarth ym Mhenparcau i rai “ddim mor hen” gan roi iddynt y cyfle o ymarferion tyner o fewn cyrraedd rhwydd i'w cartref. Ioga i blant Ym mis Hydref 2006 cawsom nawdd gan Cymunedau'n Gyntaf i hyfforddi un athro i weithio gyda phlant, ac yna derbyniom nawdd o Communities Chest i hyfforddi athro mewn ioga ar gyfer plant ag anghenion arbennig Yn fuan wedyn fe lwyddom i redeg project peilot yn Ysgol Llwyn yr Eos. Mae'r rhain wedi datblygu'n sesiynau rheolaidd ac o ganlyniad i'r cyhoeddusrwydd derbyniwyd cais oddi wrth Ysgol Penuwch i ni redeg sesiynau yn ei hysgol nhw yn nhymor Haf 2006. Erbyn hyn rydym wedi derbyn cyllid ychwanegol i weithio yn uned anghenion arbennig Ysgol Llwyn yr Eos ac i ddatblygu ioga yn Ysgol Plascrug ac Ysgol Penweddig. Ioga i Ofalwyr Yn ystod gaeaf 2006 daeth grŵp gofalwyr y Groes Goch atom gyda syniad i ddatblygu ioga i ofalwyr. Trwy grant risg cymdeithasol sicrhaodd Ioga i Bawb bod dosbarth ioga i ofalwyr yn cychwyn i ofalwyr erbyn Pasg 2006. Ioga i bobl gyda phroblemau iechyd meddwl Yn 2006 cysylltodd IiB gyda Mind ac yn dilyn trafodaeth gyda'u grŵp clientau nhw dangoswyd diddordeb mewn datblygu dosbarth o fewn ei cartref newydd yng nghanol tref Aberystwyth. Eto, gyda chymorth o gronfa risc gymdeithasol, fe ddechreuwyd dosbarth i Mind ym mis Mai eleni. Ioga i ferched beichiog Yn gynharach eleni fe gawsom gyllid i hyfforddi athro i weithio gyda merched beichiog. Nawr bod yr athro wedi ei hyfforddi rydym yn ystyried cychwyn dosbarthiadau ar gyfer merched ifanc a rhai yn ei harddegau. Cynlluniau Mae gennym gyllid yn weddill i ddatblygu safle we ac i ennill sgiliau i weithio gyda phobl sy'n gwella o fod yn gaeth i sylweddau. Rydym yn ymchwilio i broject fyddai'n datblygu sgiliau TG ymysg y bobl r'yn ni'n eu trafod er mwyn crynhoi stori ddigidol o'n gwaith. Rydym yn siarad gyda Hyfforddiant Ceredigion am ioga fel ffordd o gefnogi'r rhai hynny'n sydd wedi bod yn ddi-waith ers amser. Rydym yn datblygu dosbarthiadau o fewn Cymorth i Fenywod ar ôl i ferched yno ddod i glywed am IiB. Diolch – Ein cefnogwyr Rydym wedi'n synnu ac yn eithriadol o ddiolchgar am y gefnogaeth lwyr rydym wedi ei gael dros y flwyddyn ddiwethaf. Yn ôl a wyddon ni does dim projectau tebyg i'w cael yng Nghymru nac yng ngweddill y DU. Rydym wedi ysbrydoli eraill ar ôl i erthygl ymddangos am ein gwaith mewn cylchgrawn Ioga cenedlaethol. Cawsom ein llongyfarch gan un athro ioga am nid yn unig, arwain y ffordd o ddatblygu project o'r math yma, ond i wneud hyn yn y “Gymru wledig Gymraeg” sydd mor aml yn cael ei ymyleiddio a'i anwybyddu. Felly, am ddod a ni mor bell, i chi mae'r diolch. Am eich cefnogaeth chi, ein gwaith caled ni ac i'r ffaith bod ioga yr hyn yw ioga, ffordd wych o gadw'n iach a heini yn gorfforol a meddyliol. Rydym yn edrych ymlaen at y sialensiau sydd o'n blaen mewn blwyddyn ble rydym am atgyfnerthu. Diolch i chi. Rhestr o Gefnogwyr Cymunedau'n Gyntaf Aberystwyth Cronfa Ymddiriedolaeth Cymunedau'n Gyntaf CMG – Cronfa Grantiau Bychain Cronfa Community Chest Sportlot CGGC - Cronfa Risc Gymdeithasol |