![]() |
ENGLISH |
|
HafanIoga yn y gweithleIoga yn y gymunedDosbarthiadau Ioga Amdanom niYnglŷn â IogaAdolygiad BlynyddolCysylltu â niDolenniCD Ymlacio Ioga PlantMae ioga'n offeryn defnyddiol i blant er mwyn dysgu iddynt gadw'n iach a thawel. Mae ystumiau corfforol ioga yn eu helpu i fod yn gryf ac ystwyth. Mae anadlu ioga yn helpu i ddatblygu eu gallu i reoli eu hemosiynau yn ogystal a'u helpu i ffocysu ac ymlacio. Mae Ioga'n gyfan yn datblygu eu hunan ymwybyddiaeth a'u dealltwriaeth o'u teimladau a hefyd yn codi eu hyder a'u hunan-barch.Mae athrawon Ioga i Bawb wedi eu hyfforddi mewn modiwlau ychwanegol drwy'r British Wheel of Yoga, trwy ysgol plant ag anghenion arbenig a gyda ioga i o??? Mae nhw wedi gweithio gyda phlant man drwyodd at bobl ifanc. Mae dosbarthiadau i blant ifanc yn cynnwys storiau , canu a phenillion a cherddi sy'n odli, dysgir plant hyn drwy ddosbarthiadau thematig neu addysg gorfforol neu ABCH Mae projectau mewn Ysgolion yn cynnwys: Ysgol Llwyn yr Eos – wrth godi arian a chynnig cwrs peilot 7 wythnos gyda blwyddyn 2. Mae hwn wedi datblygu'n ddosbarth wythnosol gyda blwyddyn un a phedwar Ysgol Llwyn yr Eos – cyllidwyd cwrs 20 wythnos yn yr uned anghenion arbenig i weithio gyda phlant a gallu prin a phlant ag awtistiaeth. Ysgol Penuwch – wrth gynnig 7 sesiwn o ioga yn ystod tymor yr haf i bawb yn yr ysgol. Talwyd am hwn gan yr ysgol ei hunan. Ysgol Penweddig – cododd Ioga i Bawb 60% o'r cyllid ar gyfer talu am gwrs o ddosbarthiadau am 7 wythnos ar gyfer blwyddyn 7 a'r chweched dosbarth. Ysgol Gynradd Plascrug - cododd Ioga i Bawb 60% o'r cyllid ar gyfer talu am gwrs o ddosbarthiadau am 7 wythnos ar gyfer plant. Derbyniwyd grant Plant Mewn Angen - yn Hydref 2007 i sefydlu ioga i blant dan oed ysgol ag anghenion arbennig a'u mamau. Hefyd 35 wythnos yn ychwanegol ar gyfer plant ag anghenion dwys yn Llwyn yr Eos. |