Yoga i Bawb logo

Mynegai i'r Safle:

 


ENGLISH

 
Click here
for the Yoga i Bawb photo gallery.

Gweithio gyda ni – Yn y gymuned


Mae Ioga i Bawb yn gweithio gyda sefydliadau sydd a diddordeb mewn gweld ioga ar gael fel dull o gefnogaeth a hunan-ofal i'w grwp clientau. Gyda chymorth athro cymwysiedig da gellir addasu'r ioga i siwtio galluoedd amrwyiol. Mae Ioga i Bawb wedi gweithio gyda phobl a phroblemau meddwl, gofalwyr, yr henod, merched beichiog a phobl sydd wedi dioddef trais yn y cartref, ar hyn o bryd rydym yn datblygu projectau gyda phobl sy'n gwella ar ôl bod yn gaeth i sylweddau. Gall projectau gynnwys cychwyn dosbarthiadau ar amser ac mewn lleoliad i siwtio grŵp arbennig neu gellir cynnig i bobl fynychu'r dosbarthiadau sy'n bodoli'n barod.

Ariannu
Ambell waith gall Ioga i Bawb godi arian er mwyn cynnig dosbarthiadau i wahanol grwpiau. Weithiau gall y sefydliadau eu hunain gyllido'r cyrsiau yn rhannol neu'n gyfan, neu gyfuniad o'r ddau. Os oes diddordeb gyda chi i weithio gyda Ioga i Bawb er mwyn cynnig ioga i'ch cyd-weithwyr, cysylltwch a Chydlynydd y Project Rachel Lilley 01654 781373 .

Mae projectau Ioga i Bawb yn cynnwys:

Age Concern - teithio i Ganolfannau Dydd i gynnig sesiynau ioga a wneir wrth eistedd i lawr.
Grŵp Gofalwyr Y Groes Goch Brydeinig - Sicrhaodd Ioga i Bawb arian Ewrop i redeg cwrs o 30 dosbarth am ddim i'w gofalwyr
Mind Aberystwyth - Sicrhaodd Ioga i Bawb arian Ewrop i gynnig dosbarthiadau i bobl ag anhwylderau meddwl
Cyswllt Ceredigion Contact - i ddatblygu cynllun i sicrhau defnyddwyr y grŵp i fynychu dosbarthiadau ioga lleol.
Cymorth i Fenywod – i ddatblygu cwrs ioga arbenigol i ferched o fewn Cymorth i Fenywod.
Hyfforddiant Ceredigion – trwy weithio ar gynllun i gynnig ioga o fewn pecyn ail-hyfforddi ar gyfer y rhai sydd wedi bod yn ddi-waith ers am amser hir
Rhoserchan – i ddatblygu cwrs mewnol ar gyfer y preswylwyr