Yoga i Bawb logo

Mynegai i'r Safle:

 


ENGLISH

 
Cliciwch yma
i weld Oriel lluniau Yoga i Bawb.

Yoga i Bawb - Yoga for All


Grŵp cymunedol yw Ioga i Bawb sy'n gweithio i wneud ioga'n hygyrch ac ar gael am bris fforddiadwy i bobl Gogledd Ceredigion a Gogledd Powys. Rydym yn arbennig o awyddus i gyrraedd pobl sy'n fregus neu'n byw ar wasgar.

Ioga yn y Gymuned
Os dych chi'n gweithio gydag oedolion neu a diddordeb mewn cynnig ioga iddyn nhw cliciwch yma. Mae Ioga i Bawb wedi gweithio gydag ystod o grwpiau cymunedol a sefydliadau i gynnig dosbarthiadau i Ofalwyr, pobl gydag anabledau iechyd meddwl, merched beichiog, oedolion gydag anghenion arbenig ymysg eraill.

Ioga Plant
Os dych chi'n gweithio mewn ysgol neu gyda phlant sydd a diddordeb mewn ioga i blant cliciwch yma. Mae'n athrawon wedi eu hyfforddi i weithio gyda phlant gan gynnwys plant ag anghenion arbenig. Mae dosbarthiadau wedi eu teilwrio ar gyfer plant man hyd at bobl ifanc.

Ioga yn y gweithle
Os dych chi'n gyflogwr neu'n weithiwr a diddordeb mewn rhedeg cwrs ioga yn y gweithle clicwich yma. Mae Ioga i Bawb wedi datblygu cyrsiau ioga ac ymlacio i roi cymorth i weithwyr gadw'n iach heini a bodlon.

Dosbarth cyffredinol
Os dych chi'n unigolyn sy'n chwilio am ddosbarth ioga cyffredinol cliciwch yma. Mae'n athrawon yn rhedeg dosbarthiadau nos a dydd i ddechreuwyr i rai canolradd a phrofiadol.

Athrawon arbenigol
Mae athrawon Ioga i Bawb nid yn unig wedi eu hyfforddi hyd at o leiaf safonnau achredu'r British Wheel of Yoga mae nhw hefyd wedi eu hyfforddi mewn anghenion gwahanol ac arbenigol. Mae rhai wedi gweithio gyda meddyg esgyrn er mwyn deall problemau ystumiau corfforol cyffredin. Mae Ioga i Bawb yn ymroddedig i barhad datblygiad a hyfforddiant ei athrawon. Am fwy o wybodaeth am ein athrawon ac am anghenion arbenig cliciwch yma.