Yoga i Bawb logo

Mynegai i'r Safle:

 


ENGLISH

 
Click here
for the Yoga i Bawb photo gallery.

Gweithio gyda ni – Yn y gweithle


Mae mwy a mwy o bobl yn dioddef dan bwysau gwaith a phryder a'r afiechydon a ddaw yn sgil hyn. Mae hyn yn dylanwadu ar hapusrwydd yr unigolyn a'i effeithiolrwydd yn y gwaith. Gall ymarferion corfforol hawdd, ymarferion anadlu ac ymlacio rhoi cymorth i leddfu a thawelu pobl a gwneud eu gwaith yn fwy pleserus a chynhyrchiol. Mae llawer mwy o bwyslais nawr yn cael ei roi ar iechyd y gweithiwr cyflogedig ac i'r pwrpas yma mae Ioga i Bawb wedi datblygu rhaglen 6 wythnos i'w gynnig yn y gweithle. Amcan y cwrs yw dysgu ymarferion sylfaenol ioga, anadlu a thechnegau ymlacio, er mwyn cefnogi iechyd a lles yr unigolyn. Mae'r cwrs yn cynnwys ymarferion syml i'w gwneud wrth y ddesg ynghyd a chryno ddisg i ymlacio a'i defnyddio gartref. Mae'n bosib y bydd grantiau iechyd cyffredinol ar gael ar gyfer rhedeg y cyrsiau yma.

Astudiaeth Achos

Roedd athrawon o Ysgol Llwyn yr Eos yn awyddus i redeg dosbarth ar ôl ysgol. Gyda chefnogaeth Ioga i Bawb fe geisiwyd am grant Community Chest a derbyniwyd £750 tuag at fatiau ioga a ffi athro. Mae'r dosbarth nawr yn ei drydydd tymor ac mae'r athrawon yn trysori'n fawr y gwersi hyn, nid yn unig i'w gwella nhw yn gorfforol a meddyliol, ond mae'n sicrhau amser iddynt gyda'u gilydd tu allan i'w gwaith bob dydd.

A fwy o fanylion o weithio gyda IiB yn y gweithle cysylltwch â Rachel Lilley - Cydlynydd y project 01654 781373